Mae pobl yng Nghymru’n gwneud yn wych wrth ailgylchu eu heitemau o’r cartref bob wythnos, ac rydym yn ddiolchgar ichi am ddal ati i fod yn ailgylchwyr gwych! Mewn gwirionedd, mae 95% o ddinasyddion Cymru’n ailgylchu’n rheolaidd, ond a wyddoch chi fod rhai ohonom yn dal i roi’r eitemau anghywir yn ein cynwysyddion ailgylchu?
Mae rhoi ein gwastraff yn y cynwysyddion ailgylchu cywir yn bwysig iawn a phan fyddwn ni’n cael hynny’n anghywir, fe’i gelwir yn ‘halogi’. Pan fo gormod o ddeunydd wedi’i halogi’n cael ei roi yn y cynwysyddion anghywir, gall atal ein heitemau o’r cartref gael eu hailgylchu, sy’n golygu bod ein hailgylchu’n cael ei golli am byth.
Eitemau cyffredin rydyn ni’n eu rhoi yn y lle anghywir
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwneud yn iawn ac yn rhoi’r eitemau cywir yn y cynwysyddion ailgylchu cywir. Fodd bynnag, y camgymeriadau mwyaf cyffredin y mae pobl yn eu gwneud yw rhoi’r eitemau canlynol i mewn gyda’u hailgylchu:
Gwastraff anifeiliaid;
Jariau canhwyllau;
Eitemau ceramig;
Cambrenni dillad;
Bydiau cotwm a gwlân cotwm;
Gwastraff COVID-19 a PPE;
Cewynnau tafladwy;
Gwydrau yfed;
Pecynnau ‘codenni’ bwyd a diod feddal;
Llestri coginio a llestri ffwrn gwydr;
Cwareli ffenestri gwydr;
Caeadau plastig ystwyth;
Teganau plastig;
Tâp gludiog;
Hancesi papur;
Tiwbiau past dannedd;
Weips gwlyb.
Cyngor ar gyfer osgoi halogi eich ailgylchu
Dyma ambell ddarn o gyngor i’ch helpu i osgoi halogi eich ailgylchu a sicrhau bod yr holl ymdrech rydych yn ei wneud yn cael ei wobrwyo, nid ei wastraffu. Bydd yr ymdrech ychwanegol i roi ein hailgylchu yn y cynwysyddion cywir bob tro yn helpu Cymru i gyrraedd rhif un yn y byd am ailgylchu.
Gwiriwch ein teclyn Lleolydd Ailgylchu i weld beth y gallwch ei ailgylchu gartref;
Ewch draw i’n tudalennau Ailgylchu Eitem i wirio sut i ailgylchu eitemau’r ydych yn ansicr yn eu cylch;
Gweler gwefan eich cyngor lleol am gyfarwyddiadau ar sut i ailgylchu eitemau penodol, er enghraifft, a ddylech adael caeadau ar boteli neu jariau ynteu eu tynnu i ffwrdd cyn eu hailgylchu.