Cyflym, hyblyg, a blasus

Y blas mwyaf gyda’r ymdrech leiaf yw cyri yn ei hanfod. Galli ei baratoi unwaith yna’i newid drwy gydol yr wythnos gyda beth bynnag sydd gen ti.
1. Paratoi!
Gall rhoi ychydig bach o amser i baratoi arbed llawer o amser iti yn nes ymlaen yn yr wythnos.
Cynhwysion sylfaenol: Dechreua trwy ffrio winwnsyn, ychydig o garlleg a sinsir nes eu bod yn euraidd, yna ychwanegu dy sbeisys neu bowdr cyri, past neu saws. Ychwanega dy brotein – cig, corbys, neu toffw – yna arllwys tomatos tun a/neu laeth cnau coco ar ei ben. Rho hwb iddo gyda stoc, piwrî tomato neu iogwrt am ddyfnder a chyfoeth ychwanegol.
Rho hwb iddo, yn llawn daioni a blas:
Mae’r teulu cyffredin yn gwastraffu gwerth £84 o fwyd y mis – ond galli arbed arian a gwastraffu llai drwy ddefnyddio’r hyn sydd gen ti eisoes. Mae rhoi hwb i dy brydau’n gwneud iddyn nhw fynd ymhellach, yn achub bwyd rhag y bin, ac yn ychwanegu at eu blas.
Mae cyri’n ddelfrydol ar gyfer ychwanegu pethau fel cig neu bysgod, moron, pupurau, madarch, sbigoglys, blodfresych neu ffa. Mae pwmpen neu gwrd wedi'i rostio yn ychwanegu gwres a dyfnder, ac mae afal neu fango yn rhoi awgrym o felystra naturiol.
2. Addasu!
Dy ma hud coginio doeth – un sylfaen, opsiynau diddiwedd. Mae addasu’n cadw pethau’n ddifyr, yn arbed amser, ac yn golygu bod gen ti opsiwn blasus a hawdd yn barod bob amser.
Gall dy gyri drawsnewid yn rhywbeth newydd drwy gydol yr wythnos.
Clasur gyda reis – Neu ei gyfnewid am reis brown neu cwinoa am fersiwn maethlon
Wedi’i rowlio mewn bara fflat – Mae naan, roti, chapati paratha neu tortila oll yn gweithio. Ychwanega bicl neu siytni am fwy o flas
Wedi’i lwytho ar datws trwy’u crwyn – Wedi'i haenu ag iogwrt, hufen sur, guacamole a chaws
Wedi’i gymysgu mewn nwdls – pryd canol wythnos cyflym i lenwi’r bol
Tosti cyri – Haenau o gaws ar ei ben a’i grilio am damaid cysurus bendigedig
3. Ailgylchu!
Sut bynnag byddi di’n gweini dy gyri, cofia’r cam olaf: Ailgylchu’r hyn na ellir ei fwyta! Yn syth i’r cadi gwastraff bwyd â’r coesynnau llysiau, y crwyn anfwytadwy a’r esgyrn.
Yng Nghymru, mae gwastraff bwyd yn cael ei droi’n ynni adnewyddadwy i bweru ein cymunedau ac yn gwneud gwrtaith ar gyfer ffermydd lleol. Gall dim ond un llond cadi bweru cartref cyffredin am awr!
A phob tro ti'n ailgylchu, rwyt ti'n helpu i wthio Cymru'n agosach at y brig fel gwlad ailgylchu orau’r byd!