Swmpus, syml a hyblyg

Mae'r stiw cynhesol hwn, sy'n addas ar gyfer unrhyw beth, ffordd ddelfrydol o gael cysur mawr ar ddiwrnodau prysur. Coginia fe unwaith, yna’i weini yn dy ffordd dy hun drwy gydol yr wythnos.
1. Paratoi!
Gall rhoi ychydig bach o amser i baratoi arbed llawer o amser iti yn nes ymlaen yn yr wythnos.
Cynhwysion sylfaenol: Dechreua trwy feddalu'r winwnsyn a'r garlleg, yna ychwanega unrhyw gig dros ben, selsig, ffa neu gorbys. Ychwanega domatos tun, sblash o stoc, a thewychydd fel piwrî tomato neu flawd. Yna’i sesno’n dda a gadael iddo fudferwi’n rhywbeth cyfoethog a chynhesol.
Rho hwb iddo, yn llawn daioni a blas:
Mae’r teulu cyffredin yn gwastraffu gwerth £84 o fwyd y mis – ond galli arbed arian a gwastraffu llai drwy ddefnyddio’r hyn sydd gen ti eisoes. Mae rhoi hwb i dy brydau’n gwneud iddyn nhw fynd ymhellach, yn achub bwyd rhag y bin, ac yn ychwanegu at eu blas
Tafla lysiau, tatws, neu unrhyw beth sy'n llechu yn yr oergell. Gwna fe’n swmpus gyda moron, gwrd, madarch, pupurau, neu lysiau gwyrdd deiliog. Gorffenna fe gyda pherlysiau ffres i roi hwb iddo.
2. Addasu!
Dyma hud coginio doeth – un sylfaen, opsiynau diddiwedd. Mae addasu’n cadw pethau’n ddifyr, yn arbed amser, ac yn golygu bod gen ti opsiwn blasus a hawdd yn barod bob amser.
Gall dy stiw drawsnewid yn rhywbeth newydd drwy gydol yr wythnos.
Wedi'i weini gyda bara – Delfrydol ar gyfer dowcio
Dros datws stwnsh – Cynhesol, cysurus ac yn llenwi bol ar ôl diwrnod hir
Gyda grawn – Ei weini gyda reis, cwinoa neu gwscws am fersiwn ysgafnach a chytbwys
Ei droi’n bastai neu bryd pob – Rho grwst neu datws stwnsh ar ei ben a'i roi yn y popty am fuddugoliaeth hawdd ar yr ail ddiwrnod.
Ar ben tatws trwy’u crwyn – Ei lwyo dros daten bob gyda haeno o gaws neu berlysiau
3. Ailgylchu!
Sut bynnag byddi di’n gweini dy stiw, cofia’r cam olaf: Ailgylchu’r hyn na ellir ei fwyta! Yn syth i’r cadi gwastraff bwyd â’r coesynnau llysiau, y crwyn anfwytadwy a’r esgyrn.
Yng Nghymru, mae gwastraff bwyd yn cael ei droi’n ynni adnewyddadwy i bweru ein cymunedau ac yn gwneud gwrtaith ar gyfer ffermydd lleol. Gall dim ond un llond cadi bweru cartref cyffredin am awr!
A phob tro ti'n ailgylchu, rwyt ti'n helpu i wthio Cymru'n agosach at y brig fel gwlad ailgylchu orau’r byd!