Skip to main content
English
English

Sut i Ailgylchu

Rysáit - Ysgytlaeth adferol gwych

Cyflym, digon o danwydd ac yn llawn daioni

Ysgytlaeth adferol gwych – Cyflym, digon o danwydd ac yn llawn daioni

Wedi'i gymysgu mewn eiliadau, mae'r ysgytlaeth gwych hwn yn helpu i ailadeiladu cyhyrau blinedig, ychwanegu maetholion a dy gadw'n gryf. Cymysga fe yn dy ffordd dy hun, a’i weini sut rwyt ti’n ei hoffi.

1. Paratoi!

Gall rhoi ychydig bach o amser i baratoi arbed llawer o amser iti yn nes ymlaen yn yr wythnos.

Cymysgedd sylfaen: Dechreua gyda bananas aeddfed neu wedi'u rhewi, sgŵp o iogwrt Groegaidd neu bowdr protein, dy ddewis o laeth (llaeth buwch, ceirch, almon), a joch o ddŵr neu iâ. Blendio’r cwbl nes mae’n llyfn ac yn hufennog.

Rho hwb iddo, yn llawn daioni a blas:

Mae’r teulu cyffredin yn gwastraffu gwerth £84 o fwyd y mis – ond galli arbed arian a gwastraffu llai drwy ddefnyddio’r hyn sydd gen ti eisoes. Mae rhoi hwb i dy brydau’n gwneud iddyn nhw fynd ymhellach, yn achub bwyd rhag y bin, ac yn ychwanegu at eu blas.

Rho hwb i dy ysgytlaeth gydag aeron, mango, pinafal, melon, menyn cnau, ceirch, hadau, sbigoglys, powdr coco, sinamon neu fêl. Ychwanega bethau fel hadau llin neu chia i gael hwb ffibr ac olew omega.

2. Addasu!

Dyma hud coginio doeth – un sylfaen, opsiynau diddiwedd. Mae addasu’n cadw pethau’n ddifyr, yn arbed amser, ac yn golygu bod gen ti opsiwn blasus a hawdd yn barod bob amser.

Gall dy ysgytlaeth adferol drawsnewid yn rhywbeth newydd drwy gydol yr wythnos.

Ei fwynhau fel ysgytlaeth – Syml, oer ac yn barod mewn eiliadau ar ôl ymarfer corff.

Mewn powlen – Wedi’i arllwys dros ffrwythau, granola a chnau. Ei fwynhau ar unwaith neu ei oeri dros nos i’w gael gyda cheirch y diwrnod canlynol.

Ei rewi – Ei roi mewn mowldiau lolipops iâ i gael byrbryd oer cyfleus.

Joch ychwanegol – Rho hwb iddo gydag espresso, matcha neu dyrmerig.

Ei dwymo – Galli ei dwymo’n ysgafn i gael ysgytlaeth fel coco cysurus gyda cheirch a banana.

3. Ailgylchu!

Sut bynnag byddi di’n gweini dy ysgytlaeth, cofia’r cam olaf: Ailgylchu’r hyn na ellir ei fwyta! Yn syth i’r cadi bwyd â’r crwyn banana, topiau mefus a chrwyn ffrwythau.

Yng Nghymru, mae gwastraff bwyd yn cael ei droi’n ynni adnewyddadwy i bweru ein cymunedau ac yn gwneud gwrtaith ar gyfer ffermydd lleol. Gall dim ond un llond cadi bweru cartref cyffredin am awr!

A phob tro ti'n ailgylchu, rwyt ti'n gwthio Cymru'n agosach at y brig fel gwlad ailgylchu orau’r byd!

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon