Skip to main content
English
English
Cath yn gerdden mewn cegin

Sut i Ailgylchu

Sut i ailgylchu gartref – dechrau arni

Ar y dudalen hon

Mae ailgylchu’n hawdd ac mae’r rhan fwyaf ohonom yn ailgylchu cymaint ag y gallwn. Dilynwch ein camau syml ac ewch ati i ailgylchu heddiw.

Camau i ddechrau ailgylchu

  1. 1

    Darganfyddwch beth y gallwch ei ailgylchu gartref – ewch i fwrw golwg ar ein teclyn Lleolydd Ailgylchu i ddarganfod beth y gallwch ei roi yn eich bagiau neu finiau ailgylchu gartref;

  2. 2

    Gwiriwch fod y bagiau, biniau, bocsys neu gadis cywir gennych, ac os nad yw’r offer cywir gennych, holwch eich cyngor lleol;

  3. 3

    Holwch eich cyngor lleol i ddarganfod ar ba ddiwrnod bydd eich ailgylchu’n cael ei gasglu. Efallai y bydd eich ailgylchu’n cael ei gasglu bob wythnos, bob pythefnos neu hyd yn oed bob mis. Nodwch y dyddiad ar galendr neu rhowch nodyn atgoffa ar eich ffôn;

  4. 4

    Dewch o hyd i le i storio eich ailgylchu – nawr eich bod yn gwybod pa eitemau y cewch eu hailgylchu, dewch o hyd i le cyfleus i’w storio cyn mynd â nhw allan i gael eu casglu. Cofiwch am yr eitemau ailgylchadwy o’ch ystafell ’molchi ac ystafelloedd eraill!

  5. 5

    Gwnewch yn siŵr fod pawb ar eich aelwyd yn gwybod – anogwch eich teulu ac eraill sy’n byw gyda chi i wirio a ellir ailddefnyddio neu ailgylchu eitemau cyn eu taflu;

  6. 6

    Dewch o hyd i’r man danfon agosaf ichi ar gyfer ailgylchu ar gyfer eitemau na ellir eu hailgylchu gartref. Mae ein tudalen ‘Ailgylchu Eitem’ yn rhoi gwybodaeth fanwl ar sut ac ymhle i ailgylchu eitemau penodol na ellir eu hailgylchu gartref.

Darganfod sut ac ymhle i ailgylchu eitem benodol

Cynnwys cysylltiedig

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon