Blas mawr sy’n ddelfrydol ar wythnosau prysur

TSILI LLWYTHOG HAWDD – Blas mawr sy’n ddelfrydol ar wythnosau prysur
Mae tsili yn bryd perffaith ar gyfer coginio doeth – cynhesol, iachus, a llawn blas. Coginia fe unwaith ac mae gen ti sylfaen ar gyfer nifer o brydau bwyd ar gyfer wythnosau prysur.
1. Paratoi!
Gall rhoi ychydig bach o amser i baratoi arbed llawer o amser iti yn nes ymlaen yn yr wythnos.
Cynhwysion sylfaenol: Dechreua trwy ffrio winwnsyn a garlleg, yna ychwanega’r mins (cig, llysieuol, neu wedi’i wneud o gorbys) a’i goginio nes bydd wedi brownio. Ychwanega ffa, tomatos tun neu pasata, llwyaid o biwrî tomato, a dy hoff sbeisys.
Rho hwb iddo, yn llawn daioni a blas:
Mae’r teulu cyffredin yn gwastraffu gwerth £84 o fwyd y mis – ond galli arbed arian a gwastraffu llai drwy ddefnyddio’r hyn sydd gen ti eisoes. Mae rhoi hwb i dy brydau’n gwneud iddyn nhw fynd ymhellach, yn achub bwyd rhag y bin, ac yn ychwanegu at eu blas.
Mae tsili yn berffaith ar gyfer ei lwytho â'r darnau ychwanegol hynny o’r oergell neu rewgell – pupurau, moron, seleri, courgette, corn melys, madarch, sbigoglys… mae'r cyfan yn gweithio!
2. Addasu!
Dyma hud coginio doeth – un sylfaen, opsiynau diddiwedd. Mae addasu’r prydau’n cadw pethau’n ddifyr, yn arbed amser, ac yn golygu bod gen ti opsiwn blasus a hawdd yn barod bob amser.
Gall dy tsili drawsnewid yn rhywbeth newydd drwy gydol yr wythnos.
Clasur gyda reis – Wedi'i lwytho ag iogwrt, hufen sur, afocado neu gaws
Dros basta – Wedi'i bobi gyda chaws
Wedi'i rolio mewn bara tortila i wneud burrito –Gyda haen o golslo, ffa, reis, afocado neu salsa
Wedi'i lwytho ar datws trwy’u crwyn – Wedi'i haenu ag iogwrt, hufen sur, guacamole a chaws
Wedi'i orchuddio â thatws stwnsh – Am bastai bugail gwahanol
3. Ailgylchu!
Sut bynnag byddi di’n gweini dy tsili, cofia’r cam olaf: Ailgylchu’r hyn na ellir ei fwyta! Yn syth i’r cadi gwastraff bwyd â’r coesynnau llysiau, y crafion anfwytadwy a’r crwyn afocado.
Yng Nghymru, mae gwastraff bwyd yn cael ei droi’n ynni adnewyddadwy i bweru ein cymunedau ac yn gwneud gwrtaith ar gyfer ffermydd lleol. Gall dim ond un llond cadi bweru cartref cyffredin am awr!
A phob tro ti'n ailgylchu, rwyt ti'n helpu i wthio Cymru'n agosach at y brig fel gwlad ailgylchu orau’r byd!
Does gen ti ddim cadi? Archebwch un yma.