Skip to main content

Eitemau Trydanol

Ailgylchu gartref

Mae rhai cynghorau’n derbyn eitemau trydanol bach fel rhan o’u cynllun ailgylchu o’r cartref. Os yw eich cyngor chi’n gwneud hyn, efallai y bydd cyfarwyddiadau arbennig am sut i’w rhoi allan i’w casglu. Y peth gorau i’w wneud yw holi eich cyngor yn gyntaf.

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Eitemau Trydanol mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.

Pa eitemau trydanol y gellir eu hailgylchu?

Mae eitemau trydanol bach y gellir eu hailgylchu’n cynnwys:

  • Unrhyw eitem sydd â phlwg, sy’n defnyddio batri, y mae angen ei wefru neu unrhyw sydd â llun o fin olwynion gyda chroes drwyddo arni;

  • Tŵls garddio fel peiriannau torri gwellt a pheiriannau llarpio;

  • Nwyddau gofal personol fel sychwyr gwallt, sythwyr gwallt, brwsys dannedd trydan a raseli trydan;

  • Nwyddau gofal personol fel sychwyr gwallt, sythwyr gwallt, brwsys dannedd trydan a raseli trydan;

  • Technoleg fel radios, chwaraewyr CD/DVD, teganau a gemau electronig, ffonau, chwaraewyr MP3, setiau teledu, argraffwyr a chamerâu;

  • Eitemau eraill fel lampau, tortshis, goleuadau coed Nadolig, sugnwyr llwch, larymau mwg, peiriannau rhoi, offer TG a chyfathrebu, gliniaduron, cyfrifiaduron, tŵls trydan, offer chwaraeon, dyfeisiau meddygol a dyfeisiau rheoli.

Mae’r eitemau trydanol mawr y dylid eu casglu ar wahân fel rhan o gasgliad gwastraff swmpus a drefnir gyda’ch cyngor lleol, os yw’r gwasanaeth hwn ar gael i chi, yn cynnwys:

  • Setiau teledu sgrin fflat a monitorau;

  • Lampau fflwroleuol;

  • Oergelloedd, Rhewgelloedd, peiriannau golchi a nwyddau gwyn eraill;

  • Dyfeisiau teledu CRT sy’n defnyddio tiwbiau pelydr catod.

Mae’n dda gwybod

Yr enw ar unrhyw eitem sydd â phlwg, sy’n defnyddio batris, sydd angen ei wefru, neu sydd â llun bin olwynion wedi’i groesi allan arno, yw Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff, neu WEEE (Waste Electrical and Electronic Equipment).

Ni ddylid anfon yr eitemau hyn i dirlenwi a dylid eu hailgylchu mewn Canolfannau Ailgylchu, banciau danfon eitemau trydanol neu fanwerthwyr eitemau trydanol – ewch i recycleyourelectricals.org.uk am fwy o wybodaeth.

Ailgylchu eitem arall

Feindiwch eich ganolfan ailgylchu agosaf

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon