Skip to main content
English
English

Gwastraff o’r Ardd

Ailgylchu gartref

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Gwastraff o’r Ardd mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.

Gweld mannau ailgylchu cyfagos

Beth allaf ei roi yn fy ngwastraff o’r ardd?

  • Ffrwythau neu lysiau a dyfwyd gartref;

  • Dail, blodau, glaswellt a chwyn;

  • Rhisgl coed, canghennau wedi’u tocio a brigau.

Mae’n dda gwybod

Mae rhai cynghorau lleol yn darparu bin neu fag arbennig ar gyfer eich gwastraff o’r ardd ac yn ei gasglu fel rhan o’u cynllun casgliadau o’r cartref. Holwch eich cyngor lleol i ddarganfod a ydyn nhw’n cynnig gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd am ddim neu am ffi.

Os yw eich bin yn llawn, gallwch ailgylchu gwastraff o’r ardd yn eich canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref lleol.

Sut i ailgylchu gwastraff o’r ardd

  • Os yw eich cyngor lleol yn darparu bin neu fag ar gyfer gwastraff o’r ardd, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw gyfarwyddiadau arbennig ar gyfer yr hyn y gallwch ac na allwch ei roi ynddo;

  • Os ydych chi’n mynd â’ch gwastraff o’r ardd i’ch canolfan ailgylchu leol, yna defnyddiwch fag cryf, gwydn (nid bag bin du), a cheisiwch beidio â’i orlenwi. Mae hyn yn ei wneud yn llai tebygol o rwygo, a phan mae'n wag, gallwch fynd ag ef adref gyda chi.

Ailgylchu eitem arall

Feindiwch eich ganolfan ailgylchu agosaf

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon