Tuniau Bwyd a Chaniau Diod
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Tuniau Bwyd a Chaniau Diod mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Pa duniau bwyd a chaniau diod y mae’n bosibl eu hailgylchu?
Erosolau gwag – tynnwch y caeadau plastig a’u hailgylchu gyda phlastig ystwyth a bagiau plastig mewn mannau casglu mewn archfarchnadoedd mwy;
Ffoil alwminiwm glân, heb ei staenio a heb saim ac olew arno, sef y ffoil a ddefnyddir i bobi neu orchuddio bwyd – crychwch hwn yn belen;
Tybiau ffoil alwminiwm fel tybiau tecawê glân, heb ei staenio a heb saim neu olew arnynt, gyda’r caeadau wedi’u tynnu;
Tiwbiau alwminiwm fel piwrî tomato – tynnwch y caeadau plastig;
Tuniau bisgedi a siocled a’u caeadau;
Caniau diodydd – gwagiwch a rinsiwch;
Tuniau bwyd – gwagiwch, rinsiwch a rhowch gaeadau’r tuniau yn y tuniau, a gellir gadael y labeli arnynt.
Mae’n dda gwybod
Caiff traean o’r caniau diod a werthir yn y Deyrnas Unedig eu hyfed oddi cartref
Mae’r metel a ddefnyddir i wneud y caniau hyn yn gallu cael ei ailgylchu’n dragwyddol, felly mae’n bwysig ei fod yn cael ei arbed yn hytrach na’i daflu. Yn enwedig o ystyried y gall pob can gael ei ailgylchu a bod ar werth drachefn fel can arall – mewn dim ond 60 diwrnod.