Yn naturiol felys, iachus a hyblyg

Crymbl ffrwythau iach – Yn naturiol felys, iachus a hyblyg
Mae’r pryd pob hwn yn naturiol felys a syml, ac mae’n gwneud cystal brecwast â phwdin. Gwna fe unwaith, a’i fwynhau drwy gydol yr wythnos.
1. Paratoi!
Gall rhoi ychydig bach o amser i baratoi arbed llawer o amser iti yn nes ymlaen yn yr wythnos.
Cynhwysion sylfaenol:
Yn syml, cymysga geirch, blawd cyflawn, a diferyn o fêl neu surop masarn gydag olew cnau coco neu fenyn i greu topin briwsion euraidd. Yna’i roi fel haen dros ffrwythau meddal, aeddfed a’i bobi nes bydd yn ffrwtian ac yn grimp.
Rho hwb iddo, yn llawn daioni a blas:
Mae’r teulu cyffredin yn gwastraffu gwerth £84 o fwyd y mis – ond galli arbed arian a gwastraffu llai drwy ddefnyddio’r hyn sydd gen ti eisoes. Mae rhoi hwb i dy brydau’n gwneud iddyn nhw fynd ymhellach, yn achub bwyd rhag y bin, ac yn ychwanegu at eu blas.
Rho hwb i'r briwsion gydag afalau neu ellyg wedi'u rhostio, bananas, eirin, aeron neu riwbob. Ychwanega gnau neu hadau mân i’w wneud yn grimp, a sbeisys cynnes fel sinamon neu nytmeg am ddyfnder ychwanegol.
2. Addasu!
Dyma hud coginio doeth – un sylfaen, opsiynau diddiwedd. Mae addasu’n cadw pethau’n ddifyr, yn arbed amser, ac yn golygu bod gen ti opsiwn blasus a hawdd yn barod bob amser.
Gall dy grymbl ffrwythau drawsnewid yn rhywbeth newydd drwy gydol yr wythnos.
Fel pwdin – Wedi'i weini gyda chwstard, hufen neu hufen iâ
Fel powlen frecwast – Wedi'i lwytho â llwyaid o iogwrt a chnau a rhesins ychwanegol
Fel topin tost cyflym – Rho fenyn cnau daear, mêl neu jam ar dy dost, yna haen o’r cymysgedd crymbl am flas crensiog ychwanegol.
3. Ailgylchu!
Sut bynnag byddi di’n gweini dy grymbl, cofia’r cam olaf: Ailgylchu’r hyn na ellir ei fwyta! Yn syth i’r cadi gwastraff bwyd â’r crwyn banana, creiddiau afalau, crwyn a hadau anfwytadwy.
Yng Nghymru, mae gwastraff bwyd yn cael ei droi’n ynni adnewyddadwy i bweru ein cymunedau a gwrtaith ar gyfer ffermydd lleol. Gall dim ond un llond cadi bweru cartref cyffredin am awr!
A phob tro ti'n ailgylchu, rwyt ti'n helpu i wthio Cymru'n agosach at y brig fel gwlad ailgylchu orau’r byd!