Skip to main content
English
English

Poteli Plastig

Ailgylchu gartref

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Poteli Plastig mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.

Gweld mannau ailgylchu cyfagos

Pa boteli plastig y gellir eu hailgylchu?

  • Holl boteli plastig clir a lliw a geir o amgylch y cartref;

  • Poteli nwyddau glanhau, e.e. hylifau glanhau ystafell ymolchi a channydd;

  • Poteli glanweithydd a sebon;

  • Poteli diodydd, e.e. poteli diodydd ysgafn a dŵr;

  • Poteli nwyddau ymolchi, e.e. poteli siampŵ, gel cawod a gofal croen;

  • Poteli llaeth;

  • Poteli bwyd planhigion parod a phlaladdwyr – gwiriwch y label.

Pa boteli plastig na ellir eu hailgylchu?

  • Poteli plastig sy’n cynnwys cemegion, e.e. gwrthrewydd.

Sut i ailgylchu poteli plastig

  1. 1

    Gwagiwch a rinsiwch y poteli. Gall gweddillion bwydydd neu hylifau mewn poteli halogi eitemau eraill yn eich bag neu fin ailgylchu;

  2. 2

    Os yw poteli’n cynnwys hylif, efallai na fyddant yn cael eu hailgylchu oherwydd gallai’r broses ddidoli awtomatig eu hystyried yn rhy drwm. Gall hylif hefyd beri difrod i’r peiriannau ailgylchu;

  3. 3

    Gadewch y labeli arnynt – bydd y rhain yn cael eu tynnu’n awtomatig yn ystod y broses ailgylchu;

  4. 4

    Gadewch unrhyw gaeadau, pigau arllwys a chwistrelli ar y poteli. Bydd y rhain yn cael eu tynnu’n awtomatig yn ystod y broses ailgylchu;

  5. 5

    Gwasgwch boteli i arbed lle yn eich bag neu fin ailgylchu.

Mae’n dda gwybod

Amcangyfrifir bod cyfartaledd o 35.8 miliwn o boteli plastig yn cael eu defnyddio BOB DYDD yn y Deyrnas Unedig, ond dim ond 19.8 miliwn sy’n cael eu hailgylchu bob dydd.

Mae hyn yn golygu bod 16 miliwn o boteli plastig y diwrnod, ar gyfartaledd, yn methu â chyrraedd y bin ailgylchu.

Ailgylchu eitem arall

Feindiwch eich ganolfan ailgylchu agosaf

Eitemau tebyg

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon