Potiau a Thybiau Plastig
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Potiau a Thybiau Plastig mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Pa botiau a thybiau plastig y gellir eu hailgylchu?
Potiau iogwrt;
Tybiau siocled neu losin;
Potiau bwyd a thybiau cawl neu nwdls;
Tybiau sy’n cynnwys nwyddau glanhau fel deunydd tynnu staeniau a glanweithydd;
Tybiau cig
Tybiau menyn a marjarîn;
Cynwysyddion tecawê a phrydau parod;
Tybiau plastig sy’n dal ffrwythau neu lysiau;
Potiau sy’n cynnwys cynnyrch gofal croen a gwallt;
Cynwysyddion teisennau.
Nid yw’n bosibl ailgylchu potiau a thybiau plastig sydd wedi’u gwneud o blastig du neu frown yng Nghymru ar hyn o bryd.
Pa botiau a thybiau plastig na ellir eu hailgylchu?
Potiau paent – ailgylchwch y rhain yn eich Canolfan Ailgylchu
Teganau plastig – ailgylchwch y rhain yn eich Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref;
Polystyren, e.e. y deunydd a ddaw y tu mewn i focsys nwyddau;
Pecynnau swigod plastig sy’n dal tabledi a chapsiwlau.
Sut i ailgylchu potiau a thybiau plastig
Defnyddiwch ddŵr golchi llestri dros ben i rinsio eich potiau a thybiau plastig cyn eu hailgylchu. Gall gweddillion bwyd halogi’r deunyddiau eraill i’w hailgylchu;
Gadewch unrhyw labeli a chaeadau arnynt ond tynnwch unrhyw haenau o blastig ystwyth a phadiau amsugnol, a rhowch y rhain yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu;
Ailgylchwch unrhyw lewys cardbord gyda’ch cardbord;
Tynnwch unrhyw gaeadau plastig ystwyth oddi ar eich potiau a thybiau a’u hailgylchu gyda bagiau plastig a deunydd lapio mewn siopau manwerthu mawr. Fel arall, rhowch nhw yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.